Penrhyn Gŵyr: Gwrthdrawiad angheuol
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 67 oed wedi marw, a phedwar o bobl wedi cael eu hanafu yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhenrhyn Gŵyr.
Fe gafodd yr heddlu eu galw am 22:55 nos Wener wedi'r gwrthdrawiad rhwng ffordd y B4271 a Reynoldston rhwng cerbyd Rover gwyrdd a char Kia gwyn.
Bu farw dyn 67 oed o Hampshire yn ddiweddarach yn Ysbyty Treforys ,lle mae pedwar o bobl eraill yn cael eu trin wedi'r digwyddiad.
Mae'r ffordd yn parhau i fod ar gau tra bod yr heddlu yn cynnal ymchwiliadau.
Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101.