Canolfan: Gweithwyr yn 'anhapus'

  • Cyhoeddwyd
Canolfan alwadau
Disgrifiad o’r llun,
Roedd y drysau wedi eu cloi fore Gwener

Mae cyn-weithwyr canolfan alwadau PPI wedi dweud eu bod nhw'n anhapus wedi iddyn nhw golli eu swyddi ddyddiau cyn i'r cwmni gael ei ddirwyn i ben.

Roedd rhyw 70 yn cael eu cyflogi ar safle Griffin Place Communications yng Nghwmbrân.

Fe gyrhaeddodd y gweithwyr y safle yn Llantarnam fore Gwener a sylwi bod ystafelloedd yn wag a'r drysau wedi eu cloi.

Mae'r cwmni wedi cysylltu â rhai o'r gweithwyr er mwyn rhoi gwybod iddyn nhw am eu trafferthion.

Ond mae nifer gollodd eu swyddi wedi honni eu bod nhw'n dal i aros am filoedd o bunnau o gyflogau.

Credydwyr

Mae BBC Cymru wedi ceisio cysylltu â'r cwmni.

Yn ôl llythyr cwmni methdaliad Finn Associates, bydd cyfarfod credydwyr ar 13 Awst.

Dywedodd Cyngor Torfaen: "Fe gyfeirion ni 12 o bobl i Griffin Place Communications fel rhan o Raglen Gwaith Llywodraeth y DG.

"Rydyn ni'n cysylltu gyda'n cleientiaid er mwyn asesu a oes effaith arnyn nhw ac a allwn ni eu helpu."

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad nad oedd y cwmni wedi cysylltu â nhw ond eu bod wedi gofyn am drafodaethau ffurfiol "cyn gynted ag y bo modd."