Clwb Rygbi Y Gaiman eisiau gefeillio
- Cyhoeddwyd

Mae'r berthynas rhwng Cymru a Phatagonia wedi'i gwneud o lawer iawn o gysylltiadau llai rhwng unigolion a sefydliadau, heb sôn am berthnasau teuluol wrth gwrs.
Nawr mae Clwb Rygbi'r Gaiman - Clwb Rygbi'r Ddraig Goch - yn awyddus i greu cysylltiad newydd gyda chlwb yng Nghymru, gan ddilyn trywydd clybiau Trelew a Phorth Madryn, sydd eisoes wedi gefeillio gyda chlybiau yma.
Cafodd Clwb y Ddraig Goch ei sefydlu dros ddeng mlynedd yn ôl fel clwb i blant ac erbyn hyn mae wedi tyfu i fod â thîm cyntaf a thimau dan 18, dan 16 a grwpiau oedran eraill. Hefyd, mae gan y clwb dros 30 o ferched yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth saith bob ochr.
Maen nhw'n chwarae'n rheolaidd yn erbyn timau Trelew, Madryn a Rawson ac yn gwneud teithiau pellach yn flynyddol i herio timau yn Esquel a Comodoro Rivadavia.
Maen nhw'n chwarae eu gemau cartref ar gae pridd gan nad oes digon o law i dyfu gwair ond mae'r clwb yn gobeithio y bydd modd cael cae gwair yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Dywedodd un o gefnogwyr y clwb, Billy Hughes, y byddai creu cysylltiad gyda chlwb o Gymru yn rhoi profiadau newydd i'r chwaraewyr.
"Byddai'n dda anfon plant draw i chwarae am gyfnod bach a hwyrach derbyn chwaraewyr o Gymru yma.
"Byddai hynny'n help mawr i ni, ac efallai byddai'n help ar y ddwy ochr."
Os oes diddordeb gan glwb rygbi yng Nghymru mewn creu cysylltiad gyda Chlwb y Ddraig Goch yn y Gaiman, gellir cysylltu gyda nhw trwy'r cyfryngau cymdeithasol arferol.