Saethu Abercynon: Cyhuddo dau ddyn
- Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi eu cyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad rhwng Aberpennar ac Abercynon ddydd Sul.
Cafodd Mark Jones, 43 o Aberpennar, ei saethu ar ochr y ffordd.
Mae Stephen Bennett, 51 o Bontypridd, ac Edward Bennett, 46 o Aberpennar, wedi eu cyhuddo o geisio llofruddio ac o fod a gwn yn eu meddiant gyda'r bwriad o gyflawni trosedd.
Cafodd y ddau ddyn eu cadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos yn y llys ar 1 Awst.