Cau gorsaf bws Caerdydd cyn ail-ddatblygu

Cardiff bus station Image copyright Jaggery/Geograph

Bydd gorsaf bws Caerdydd yn cau nos Sadwrn cyn i waith i ail-ddatblygu'r safle ddechrau.

Mae'r orsaf yn cael ei dymchwel er mwyn datblygiad Sgwâr Canolog Caerdydd, fydd yn cynnwys pencadlys newydd BBC Cymru a chyfnewidfa bws newydd.

Bydd y bws olaf yn gadael am tua 23:10, ac yna bydd gwasanaethau yn rhedeg o strydoedd agos.

Bydd cysylltiad rhwng yr orsaf newydd gyda'r orsaf drenau.

Image copyright Foster + Partners
Image caption Darlun artist o sut all y safle edrych