Diwrnod cyntaf yr Eisteddfod ym Maldwyn

  • Cyhoeddwyd
Pafiliwn

Mae'r cystadlu yn dechrau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Maldwyn ddydd Sadwrn.

Agorodd y maes nos Wener wrth i sioe Gwydion gael ei llwyfannu yn y pafiliwn.

Ddydd Sadwrn bydd gwobrau'r celfyddydau gweledol yn cael eu cyflwyno, ac fe fydd rownd derfynol Talwrn y Beirdd yn digwydd yn y Babell Lên.

Yn Theatr y Maes bydd cynhyrchiad Mimosa yn cael ei pherfformio gan bobl ifanc o Gymru a'r Ariannin, cyn i gynllun newydd - noson 'Croeso Corawl' - ddigwydd am y tro cyntaf.

Daw'r syniad gan y trefnydd, Elen Elis, ac mae'n gweld nifer o gorau llai yr ardal yn dod at ei gilydd i berfformio ystod eang o ddarnau mwy cyfoes.

Gallwch wylio'r cystadlu yn ogystal â dilyn ein llif byw, orielau a straeon newyddion o'r maes drwy gydol yr wythnos yma ar Cymru Fyw.