Morgannwg yn curo Essex o 146 rhediad
- Cyhoeddwyd

Sgoriodd Colin Ingram 130 wrth i Forgannwg guro Essex o 146 o rediadau yn y cwpan undydd.
Dyma oedd y sgôr uchaf i'r gŵr o Dde Affrica ei sgorio mewn gem undydd, cyn i Graham Wagg sgorio 62 oddi ar 36 pêl wrth i Forgannwg gyrraedd 288-6 yng Nghaerdydd.
Cymrodd Wagg ddwy wiced wrth i Essex golli chwe wiced am 63 rhediad.
Ryan ten Doeschate oedd y gorau o fatwyr Essex, gan gyrraedd 47 cyn colli ei wiced i Dean Cosker.
Cymrodd Ingram ddwy wiced am 23 wrth i'r ymwelwyr sgorio 142 ar ddiwedd eu batiad, a cholli o 146 o rediadau.