Saethu Aberpennar: Dau ddyn yn y llys

  • Cyhoeddwyd
llys
Disgrifiad o’r llun,
Fe ymddangosodd Stephen Bennett, o Bontypridd ac Edward Bennett, o Aberpennar, yn y llys fore Sadwrn

Mae dau ddyn wedi ymddangos yn y llys wedi eu cyhuddo o geisio llofruddio dyn yn Rhondda Cynon Taf.

Fe gadarnhaodd Stephen Bennett, 52 oed, o Bontypridd ac Edward Bennett, 47, o Aberpennar, eu henwau, cyfeiriadau a dyddiadau geni yn ystod y gwrandawiad yn Llys Ynadon Pontypridd.

Mae'r ddau wedi eu cadw yn y ddalfa er mwyn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.

Mae Mark Jones, 43 oed, yn parhau i fod yn yr ysbyty ym Merthyr Tudful yn dilyn y digwyddiad yn Aberpennar nos Sul, 26 Gorffennaf.

Mae'r ddau ddyn hefyd yn wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â throseddau drylliau.

Disgrifiad o’r llun,
Mae dyn 43 oed, yn parhau i fod yn yr ysbyty ym Merthyr Tudful yn dilyn y digwyddiad yn Aberpennar