Ymosodiad difrifol: Heddlu'n ymchwilio

  • Cyhoeddwyd
grangetown
Disgrifiad o’r llun,
Fe gafodd swyddogion eu galw i Stryd y Gogledd, yn Grangetown fore Sadwrn

Mae'r heddlu yn ymchwilio yn dilyn ymosodiad difrifol ar ddyn yng Nghaerdydd.

Fe gafodd y dyn ei ddarganfod yn anymwybodol ar stryd yn ardal Grangetown o'r ddinas.

Cafodd swyddogion eu galw i Stryd y Gogledd, Grangetown tua 04:20 fore Sadwrn.

Fe gafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty ond nid yw gyflwr yn hysbys.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101.