Achub pedwar o'r môr ger Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
ynys lawd
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd gwylwyr y glannau nad oedd y dynion yn gwisgo siacedi achub

Mae dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty ar ôl i gwch fach fynd i drafferth yn y môr ger Ynys Lawd oddi ar Ynys Môn.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau Caergybi fod y dyn wedi dioddef anaf i'r pen ac fe gafodd ei hedfan i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Dywedir fod y dyn yn dad i un o dri o ddynion 18 oed, oedd hefyd ar fwrdd y cwch.

Fe gafodd y tri dyn hefyd eu cludo i'r ysbyty oherwydd effeithiau hypothermia.

Fe gafodd y dynion eu hachub gan long oedd yn pasio tua 10:45 fore Sadwrn.

Dywedodd gwylwyr y glannau nad oedd y dynion yn gwisgo siacedi achub ac mae'r ardal lle aethant i drafferthion yn adnabyddus fel ardal "eithaf garw".