Cip agosach ar y bêl hir-gron
- Cyhoeddwyd

Yn y Babell Wyddoniaeth ar faes Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau eleni, mae 'na gyfle i gael cipolwg ar dechnoleg y bêl rygbi.
Mae Prifysgol Caerdydd a Gilbert, gwneuthurwr peli Cwpan Rygbi'r Byd, wedi dod at ei gilydd i ddangos sut mae polymer yn arwyneb allanol y bêl yn gwneud iddi gasáu dŵr a glynu at ddwylo'r chwaraewyr.
Gydol yr wythnos ar y maes, gall plant gymryd rhan yn her Cwpan Rygbi'r Byd yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae Carwyn Owen, y crefftwr sy'n gyfrifol am wneud Cadair yr Eisteddfod eleni, wedi creu model sydd wedi'i gynllunio'n arbennig i brofi sgiliau rygbi'r bobl ifanc a thynnu sylw at werth polymerau.
Yr Athro Arwyn Jones o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd a Dr Gareth Llywelyn o'r Gymdeithas Feddygol, sy'n gyfrifol am arddangosfa Polymerau ar Waith.
Mae'r arddangosfa'n cynnwys yr elfen rygbi a dwy elfen arall - polymerau mewn cewynnau a pholymerau mewn stents cardiaidd, sef tiwbiau sy'n cael eu defnyddio i drin rhydwelïau cul neu wan.