Ann Clwyd: 'Rhyfel y gwlff yn ddi-angen"

  • Cyhoeddwyd
Ann ClwydFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Mi fyddai wedi bod yn bosib osgoi ail ryfel yn y Gwlff petai cyngrheiriaid y Gorllewin wedi trechu Saddam Hussein ddegawd ynghynt, yn ôl un AS o Gymru.

Daw sylwadau Aelod Seneddol Cwm Cynnon, Ann Clwyd, union 25 mlynedd ers i luoedd Irac ymosod ar Kuwait - cyrch arweiniodd at ryfel y Gwlff yn 1991.

Fe arweiniodd yr ymosodiad at y rhyfel gwlff cyntaf, ond fe lwyddodd Saddam Hussein i aros mewn grym tan yr ail ryfel fwy na 10 mlynedd yn ddiweddarach.

Dywedodd Ms Clwyd fod America a'r DU wedi "anwybyddu" Saddam Hussein.

Mae Ms Clwyd, sy'n eistedd ar y Pwyllgor Dethol ar Faterion Tramor, wedi bod yn ymgyrchydd hir yn erbyn troseddau hawliau dynol yn Irac ac roedd yn llysgennad arbennig i'r cyn-brif weinidog Tony Blair yn Irac.

'Gwneud Camgymeriadau'

Wrth siarad ar raglen y 'Sunday Supplement' ar BBC Radio Wales, dywedodd Ms Clwyd fod gweinyddiaethau George Bush Snr a John Major wedi "gwneud camgymeriad i feddwl fod y broblem wedi ei datrys" pan gafodd Saddam Hussein ei orfodi i adael Kuwait yn 1991.

Dywedodd: "Cafodd ei gicio allan o Kuwait yn weddol gyflym, ond wrth gwrs, roedd wedi llwyddo i gymryd pobl yn wystlon.

"Fe eisteddodd y gymuned ryngwladol gyfan, a'r Cenhedloedd Unedig, yn ôl, a'i anwybyddu mewn modd na ddylent fod wedi gwneud."

Dywedodd Ms Clwyd fod y penderfyniad i "stopio ar y ffordd i Baghdad" ac i beidio ymosod yn 1991 yn gamgymeriad.

"Rwy'n credu y byddai'r dioddefaint a'r gormes wedi dod i ben petai byddin Irac ar y pryd wedi eu trechu."

Pan ofynnwyd iddi a oedd hi'n meddwl y gallai ail ryfel y Gwlff fod wedi cael ei osgoi pe cyfraith ryngwladol wedi cael ei ddefnyddio ar ôl y rhyfel cyntaf, dywedodd: "Ydw, mae hynny yn sicr."