Dirwy i bobl sy'n 'loetran' mewn gorsafoedd
- Cyhoeddwyd

Mae'r cyngor wedi cymeradwyo cynlluniau i orfodi Gorchymyn Amddiffyn Mannau Cyhoeddus (PSPO) yng ngorsaf fysiau'r Coed-duon.
Gallai pobl sy'n "loetran" mewn gorsafoedd bysiau yn Sir Caerffili wynebu dirwy o £100 yn sgil pwerau newydd.
Mae'r cyngor wedi cymeradwyo cynlluniau i orfodi Gorchymyn Amddiffyn Mannau Cyhoeddus (PSPO) mewn gorsafoedd bysiau ym Margod, Coed-duon, Nelson a thref Caerffili yn ogystal â gorsaf drenau Caerffili.
Y gobaith yw lleihau "ymddygiad gwrthgymdeithasol, anhrefn ac aflonyddwch", meddai adroddiad gan gabinet y cyngor.
Mae hynny'n cynnwys yfed alcohol, cymryd cyffuriau a difrodi eiddo.
Mae 'loetran' yn cael ei ddiffinio yn yr adroddiad fel person nad yw'n "aros am gludiant cyhoeddus neu'n aros i gwrdd â rhywun sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus".
Fe amcangyfrifir fod arwyddion PSPO ar gyfer pob gorsaf wedi costio tua £1,000 i'r cyngor.