Ymosodiad ym Mhowys: Dau ddyn yn y llys
- Published
image copyrightGoogle
Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo o geisio llofruddio wedi ymosodiad ar ddau lanc ym Mhowys.
Mae bachgen 16 oed yn parhau i fod yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ac mae dyn 18 oed wedi cael ei ryddhau o'r ysbyty yn dilyn y digwyddiad ddydd Mercher ym Mhontsenni.
Mae dau ddyn 18 oed wedi ymddangos yn Llys Ynadon Llandrindod ddydd Sadwrn, a chawsant eu cadw yn y ddalfa.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod swyddog cyswllt teulu yn cefnogi teulu'r bachgen 16 oed.