Treialu Ap sy'n dangos llefydd parcio gwag yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Albany Road, CardiffFfynhonnell y llun, jaggery
Disgrifiad o’r llun,
Mae Ffordd Albany Road yn un o'r ardaloedd fydd yn cael eu cynnwys yn yr ap

Mae ap sy'n dangos i yrwyr lle mae llefydd parcio gwag yn cael ei dreialu yng Nghaerdydd.

Mae'r dechnoleg 'Parcio Clyfar' yn defnyddio synwyryddion canfod cerbydau, sydd wedi eu gosod mewn ardaloedd parcio yng Nghaerdydd i nodi mannau sydd ar gael.

Caerdydd yw'r ddinas gyntaf tu allan i Lundain i ddefnyddio'r dechnoleg.

Dywedodd y cyngor os bydd y cynllun peilot yn llwyddiannus, byddai'n edrych ar ymestyn y cynllun.

Mae'r ardaloedd treialu yn cynnwys:

  • West Grove
  • Y Rhodfa
  • Rhodfa'r Amgueddfa
  • Ffordd y Gogledd
  • Ffordd yr Amgueddfa
  • Plas y Parc
  • Ffordd Wellfield
  • Ffordd Albany
  • Maes Parcio Ffordd Hafren
  • Maes Parcio Gerddi Sophia