'Angen i Blaid Cymru dorri rôl arglwyddiaethol Llafur'

  • Cyhoeddwyd
cynnog dafis

Mae gwleidydd profiadol wedi dweud ei bod yn "rhaid i Blaid Cymru dorri rôl arglwyddiaethol Llafur yng ngwleidyddiaeth Cymru",

Roedd y cyn AS ac AC, Cynog Dafis, yn siarad ar raglen y Sunday Supplement ar BBC Radio Wales i nodi 90 mlynedd ers sefydlu Plaid Cymru.

Dywedodd: "Mae rhedeg Cymru yn well na'r Blaid Lafur yn dasg uchelgeisiol, ond mae'n un a ellir ei chyflawni, does dim amheuaeth am hynny.

"Ond beth sy'n allweddol i hynny ddigwydd, ydi gweithredu'r cysyniad hwnnw o Gymru un genedl."

Wrth siarad am y ffurfio'r blaid yn 1925 dywedodd Mr Dafis: "Nid oedd y syniad o Gymru fel cenedl wleidyddol ddemocrataidd gyda'i sefydliadau eu hun, ac yn arbennig gyda'i chynulliad etholedig ei hun ar radar neb ar y pryd oni bai am aelodau Plaid Cymru."

Cynog Dafis oedd cyfarwyddwr polisi'r blaid rhwng 1997 a 2003.

Cynrychiolodd etholaeth Ceredigion fel AS rhwng 1992 a 2000, a rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru fel AC rhwng 1999 a 2003.