Brechiad newydd wedi cynnydd achosion llid yr ymennydd
- Cyhoeddwyd

Mae pobl ifanc wedi cael eu hannog i gael brechiad sy'n eu hamddiffyn rhag llid yr ymennydd.
Fe ddaw'r cyngor gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Ruth Hussey, a hynny yn dilyn cynnydd mewn achosion grŵp W meningococaidd o'r feirws.
O ddydd Llun ymlaen, fe fydd y brechiad yn cymryd lle brechlyn llid yr ymennydd math C ac mae'r brechiad newydd hefyd yn cynnig amddiffyniad rhag mathau A ac Y o'r feirws.
Mae plant 13 i 18 oed, yn ogystal â myfyrwyr yn gymwys ar gyfer y brechiad.
Dywedodd Dr Hussey fod plant oed ysgol uwchradd mewn mwy o risg o gael y feirws a dywedodd y dylai'r rhai sydd eisoes wedi cael brechiad Math C gael y pigiad diweddaraf hefyd.
Mae pob myfyriwr o dan 25 oed, sy'n mynychu'r brifysgol am y tro cyntaf yn yr hydref yn cael eu cynghori i gael y brechlyn gan eu meddygfa o leiaf bythefnos cyn iddynt ddechrau ar eu cyrsiau.
Mae'r rhai a anwyd rhwng 1 Medi 1996 a 31 Awst 1997 yn gallu cael y brechiad gan eu meddyg teulu, tra bydd yn rhaid i blant iau gael y brechiad yn eu meddygfa neu yn yr ysgol yn ystod y ddwy flynedd nesaf.