Darganfod corff dyn yn Afon Taf
- Cyhoeddwyd
Mae corff dyn wedi cael ei ddarganfod yn Afon Taf, Caerdydd.
Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i ardal Taff Embankment tua 22:50 nos Sadwrn yn dilyn adroddiadau fod person yn y dŵr.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod y dyn 35 oed, eisoes wedi marw pan ddaethant o hyd iddo.
Mae'r heddlu wedi dechrau ymchwilio i achos y farwolaeth, sydd yn anhysbys ar hyn o bryd.