Tri wedi marw mewn damweiniau beiciau modur
- Cyhoeddwyd
Cafodd tri o feicwyr modur eu lladd mewn tair damwain wahanol yng Nghymru ddydd Sul.
Ym Mhowys, bu farw dyn 49 oed ychydig cyn 09:00 ar ôl damwain rhwng beic modur a bws mini rhwng Ceri a Sarn ar yr A489.
Cafodd beiciwr modur 53 oed ei ladd ar yr A470 yn Llwyn Onn ger Merthyr ychydig cyn hanner dydd.
Mae Heddlu'r De hefyd yn ymchwilio i ddamwain pan fu farw beiciwr modur ar yr A470 bnawn Sul yn ardal Pontyrpidd yn dilyn gwrthdrawiad gyda char Renault Clio.
Mae Heddlu De Cymru a Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i'r damweiniau ac yn apelio am dystion.