Yr heddlu yn ail agor ffordd brysur yng Nghaerdydd yn dilyn marwolaeth dyn

  • Cyhoeddwyd
Police incident Cardiff
Disgrifiad o’r llun,
Yr heddlu yn ardal Gablafa

Mae'r heddlu yng Nghaerdydd wedi ail-agor un o ffyrdd prysura'r ddinas yn dilyn yr hyn maen nhw'n ei alw yn 'ddigwyddiad' lle y bu farw dyn.

Yn ôl llefarydd ar ran Heddlu'r De cafodd swyddogion eu galw i Rodfa'r Gorllewin, wrth ymyl cyffordd Gabalfa ychydig cyn 05:00.

Cafodd heol ddwyreiniol Rhodfa'r Gorllewin ei chau drwy'r bore.

Dywed yr heddlu eu bod wedi dod i gorff dyn.

Maen nhw'n credu fod y corff wedi disgyn o bont gerdded uwchben Rhodfa'r Gorllewin.

Mae'r heddlu yn apelio am dystion i'r digwyddiad.

Yn ôl yr heddlu roedd y dyn yn gwisgo siwmper o liw hufen a chrys t-coch a jeans glas. Mae'n bosib ei fod wedi cerdded o gyfeiriad Treganna.