BBC Cymru Fyw

Morgannwg yn ymddiheuro

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionCafodd Jimmy Adams ergyd i'w ben yn Stadiwm Swalec
Mae prif weithredwr clwb criced Morgannwg Hugh Morris wedi ymddiheuro ar ôl i'r gêm yn erbyn Hampshire ddydd Sul gael ei hatal oherwydd cyflwr y llain.
Fe benderfynodd y dyfarnwr ei bod hi'n beryglus i barhau ar ôl i ddau o fatwyr Hampshire gael eu taro ar eu helmed wrth i Forgannwg fowlio.
"Fel clwb mae hwn yn embaras, rydym yn hynod siomedig a byddwn yn cynnal ymchwiliad llawn," meddai Morris.
"Mae'n amlwg pe bai'r dyfarnwr yn credu fod y llain yn beryglus, y peth cywir i wneud oedd gohirio'r gêm, " ychwanegodd Morris.
Roedd Morgannwg wedi sgorio 182-0 mewn 50 pelawd, ond cafodd y gêm ei gohirio ar ôl 6.4 pelawd o fatiad Hampshire.
Y llynedd fe gafodd Morgannwg eu cosbi dau bwynt oherwydd cyflwr y llain yng Nghystadleuaeth y Cwpan Undydd yn erbyn Durham.
Cafodd gem dydd Sul ei chwarae ar yr un maes a'r un lwyfannodd y fuddugoliaeth yn erbyn Essex ddydd Gwener.
"Rwyf eisiau ymddiheuro i'r rhai oedd yn gwrando ar y gêm, i'r rhai oedd yn ei gwylio ar y teledu, a'r rhai sydd wedi gwario arian da i ddod yma er mwyn cael eu diddanu y pnawn 'ma.
"Fel rhan o'r ymchwiliad byddwn yn cyfweld nifer o bobl, ac yna yn dod i benderfyniad.
"Fe fydd o'n ymchwiliad eang a thrylwyr a bydd yn digwydd yn syth."