Galw am ddiddymu 'Croeso Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Wales Tourism

Byddai'r sefydliad sy'n gyfrifol am hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru - Croeso Cymru - yn cael ei ddileu pe bai'r Ceidwadwyr yn ffurfio'r llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd.

Dywedodd Suzy Davies, llefarydd y Ceidwadwyr ar Dwristiaeth, mai camgymeriad mawr oedd cael gwared ar Fwrdd Twristiaeth Cymru yn 2006.

Yn ôl y Ceidwadwyr dylid creu sefydliad newydd yn lle Croeso Cymru - sefydliad fyddai'n cael ei arwain gan arbenigwyr yn y diwydiant ac a fyddai'n gweithredu "hyd braich o'r llywodraeth."

Hawliodd y Ceidwadwyr mai dim ond 28.7% allan o 142 o'r busnesau twristiaeth a holwyd ganddynt oedd yn cefnogi'r drefn bresennol.

Mewn ymateb dywedodd, Ken Skates AC, dirprwy weinidog yn Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb dros dwristiaeth, "byddai addewid y Ceidwadwyr i gael gwared â Croeso Cymru yn achos anrhefn ar adeg pan mae'r weinyddiaeth Lafur wedi sicrhau twf sylweddol yn y sector twristiaeth."

Mae Cymru yn perfformio yn well na gweddill y Deyrnas Unedig mewn twristiaeth ac mae Croeso Cymru wedi bod yn allweddol i lwyddiant y diwydiant."