Heddlu yn arestio trydydd person

  • Cyhoeddwyd
Police were called to North Street, Grangetown in the early hours of Saturday
Disgrifiad o’r llun,
Yr heddlu yn ardal Grangetown

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth Russell Peachey, dyn 35 oed, yn Grangetown, Caerdydd, wedi arestio trydydd dyn.

Cafodd y dyn 37 oed o'r Barri ei gymryd i'r ddalfa nos Sul.

Cafodd Mr Peachey ei ddarganfod yn anymwybodol ar Ffordd y Gogledd tua 04:20 fore Sadwrn.

Aed ag ef i'r ysbyty ond bu farw'n ddiweddarach.

Mae dau ddyn arall eisoes yn cael eu holi ynglŷn â'r digwyddiad.

Mae'r heddlu am glywed gan unrhyw un oedd yn yr ardal rhwng 03:30 a 04:20 i gysylltu â nhw ar 101.