Carwyn Jones: Llywodraeth y DU 'ddim yn poeni' am ddarlledu Cymraeg
- Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud wrth BBC Cymru nad yw llywodraeth y DU yn poeni dim am ddarlledu yn y Gymraeg.
Dywedodd ar Radio Cymru ei bod yn "anodd gweld" sut y bydd darlledu yn y Gymraeg yn cael ei ariannu o ystyried cynnwys papur gwyrdd y llywodraeth ar ddyfodol y BBC.
Ychwanegodd fod angen mwy o sicrwydd ynglŷn â dyfodol S4C a Radio Cymru.
Wfftio'r honiadau wnaeth yr AS Ceidwadol Glyn Davies gan ddweud bod darlledu cyfrwng Cymraeg yn parhau'n bwysig i lywodraeth San Steffan. Mewn datganiad, dywedodd Adran Ddiwylliant Llywodraeth y DU (DCMS) eu bod "wedi ymrwymo i ddarpariaeth darlledu mewn ieithoedd lleiafrifol".
Wrth siarad â Rhaglen Dylan Jones, dywedodd Carwyn Jones: "Dwi ddim yn credu eu bod nhw (llywodraeth y DU) yn poeni o gwbl am ddarlledu cyfrwng Cymraeg," meddai.
"Nid ydynt wedi ystyried S4C o gwbl wrth benderfynu bod yn rhaid i'r BBC ariannu'r Sianel Gymraeg. Mae'n anodd dweud ar hyn o bryd sut y bydd darlledu cyfrwng Cymraeg yn cael ei ariannu yn y dyfodol. "
'Dim tystiolaeth na hygrededd'
Wrth ymateb, dywedodd AS Maldwyn, Glyn Davies: "Does yna ddim tystiolaeth na hygrededd ar gyfer ei honiad."
Roedd e'n cydnabod ei fod e wedi bod "yn anodd iawn" i gynnal cyllid S4C, gan ddweud roedd yn rhaid torri'r cysylltiad gyda chwyddiant.
"Fe fydd yna ddadl i wthio holl gyllid S4C ar y BBC, ond fe wna i'r hyn fedra i sicrhau y bydd cyllid o San Steffan yn parhau."
Dywedodd llefarydd ar ran DCMS: "Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddarpariaeth darlledu mewn ieithoedd lleiafrifol, gan gynnwys S4C.
"Rydyn ni'n parhau i ddarparu cyllid o £7m y flwyddyn i S4C, yn ychwanegol at y £76m o gyllid ffi'r drwydded sydd wedi ei osod allan ar gyfer y sianel tan Ebrill 2017.
"Fe fydd holl benderfyniadau'r dyfodol ar gyllid ffi'r drwydded, ynghyd â maint a sgôp y BBC yn faterion ar gyfer Adolygiad y Siarter, proses a fydd yn drwyadl, agored ac yn croesawu barn pawb."
Yn ddiweddarach, mewn trafodaeth ar faes yr Eisteddfod, mae disgwyl y bydd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies yn dweud nad yw darlledu Cymraeg "erioed wedi bod mor bwysig."