First Great Western: Streiciau Gŵyl Banc
- Cyhoeddwyd

Fe fydd gweithwyr First Great Western yn cynnal rhagor o streiciau, gan gynnwys ar benwythnos gŵyl y banc, yn ôl undeb gweithwyr rheilffordd yr RMT.
Mae'r streiciau'n rhan o ymgyrch yn erbyn newidiadau arfaethedig i batrymau gwaith pan fydd trenau InterCity yn cael eu newid i rai Hitachi.
Mae FGW yn gyfrifol am wasanaethau rhwng gorsaf Paddington yn Llundain a de Cymru.
Mae'r undeb yn bryderus na fydd gardiaid na cherbydau bwffe ar y trenau newydd fydd yn cael eu cyflwyno yn 2017.
Bydd aelodau'r RMT, gan gynnwys gyrwyr a gardiaid, ar streic am 24 awr ar 23 Awst ac am 72 awr o 29 Awst ymlaen, tra bydd staff cynnal a chadw yn streicio ar 29 Awst a 31 Awst.
Mewn llythyr agored i gwsmeriaid beth amser yn ôl, dywedodd Mark Hopwood o FGW y byddai mwy, nid llai, o staff ar y trenau newydd.
Dywedodd y byddai telerau ac amodau presennol y staff yn cael eu gwarchod, ac na fyddai yna unrhyw ddiswyddiadau gorfodol ar gyfer staff yn y gorsafoedd nac yn yr adran gwasanaethau cwsmer.