Arestio llanc 16 wedi achos o drywanu yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae llanc 16 oed wedi cael ei arestio ar ôl i ddyn 67 oed gael ei drywanu yng Nghaerdydd.
Fe gafodd Heddlu De Cymru eu galw i "ddigwyddiad domestig" yn Stryd Casnewydd tua 19:15 nos Lun.
Cafodd y dyn 67 ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, ond nid yw ei anafiadau yn cael eu hystyried i fod yn rhai difrifol.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Edward Ough nad yw'r heddlu yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.