BBC Cymru Fyw

Twristiaeth yn werth £390m i ardal Abertawe yn ôl adroddiad

Published
image copyrightYmddiriedolaeth Genedlaethol
image captionBae Rhossili
Roedd y diwydiant twristiaeth yn werth dros £390m i economi Bae Abertawe yn 2014, yn ôl y ffigurau diweddaraf.
Fe wnaeth 4.47 miliwn o bobl ymweld â'r ardal, gyda'r arian gafodd ei wario gan ymwelwyr yn cynyddu 5.35%, o gymharu gyda'r arian gafodd ei wario gan ymwelwyr yn 2013.
Cafodd y ffigurau diweddaraf eu cyhoeddi gan Gyngor Sir Abertawe, yn seiliedig ar waith ymchwil mewn adroddiad Model Gweithgaredd Economaidd Twristiaeth Scarborough, sy'n mesur gwahanol dueddiadau ym maes twristiaeth.
Mae 5,910 o swyddi lleol yn cael eu cynnal gan dwristiaeth, sydd yn gynydd o 5.2% ar y niferoedd yn 2013.
Dywedodd y Cynghorydd Robert Francis-Davies o Gyngor Abertawe fod traethau a chefn gwlad yr ardal yn creu "amffitheatr naturiol i dwristiaeth".