Toriadau i S4C yn 'bygwth' swyddi medd Leanne Wood
- Cyhoeddwyd

Byddai toriadau i gyllideb S4C yn tanseilio diwydiant sydd yn cynnal canoedd o swyddi yng Nghymru, yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Wrth siarad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod, galwodd Ms Wood am ddiogelu'r sianel ac am ddatganoli grymoedd dros ddarlledu i Gymru.
Dywedodd Leanne Wood fod rhagleni S4C a'r sylw i fywyd Cymru wedi dioddef wedi toriadau i gyllideb y sianel yn 2010.
Mae llywodraeth y DU wedi dweud ei fod wedi ei "ymrwymo" i ddarlledu Cymreig.
Mae S4C - sydd yn derbyn y rhan fwyaf o'i arian gan y BBC - wedi clywed fod disgwyl i'r sianel ddod o hyd i "arbedion rhesymol" fel rhan o gytundeb ar y drwydded deledu gafodd ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf.
Yn ôl ffigurau yn adroddiad blynyddol S4C roedd y gost y pen am bob gwyliwr wedi gostwng o £1.36 yr wythnos yn 2009 i 85c yr wythnos yn 2014/15.
Dywedodd Ms Wood fodd ffawd y sianel yn "enghraifft berffaith o'r hyn sydd yn digwydd pan fod darlledu yng Nghymru yn cael ei adael yn nwylo Llundain".
Ddydd Llun fe wrthododd llywodraeth y DU awgrym Prif Weinidog llywodraeth Cymru Carwyn Jones nad oedd yn poeni am ddarlledu yng Nghymru.