Marwolaeth Caerdydd: Chwilio am ddyn

  • Cyhoeddwyd
James Mark WilliamsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r heddlu'n awyddus i siarad gyda James Mark Williams o'r Barri

Mae'r heddlu yn chwilio am ddyn o Fro Morgannwg mewn cysylltiad ag ymchwiliad i lofruddiaeth yng Nghaerdydd.

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i farwolaeth Russell Peachey, 35 oed, am 04:20 fore dydd Sadwrn. Cafwyd hyd i'w gorff yn ardal Grangetown o'r ddinas.

Dywed yr heddlu eu bod yn apelio am wybodaeth ynglŷn â lleoliad James Mark Williams, 31 oed, o'r Barri.

Cafodd trydydd dyn ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ddydd Llun. Mae'r dyn 37 oed o'r Barri'n cael ei holi gan yr heddlu, sydd wedi dau ddyn arall yn barod.