Cweir i Forgannwg yn y Cwpan Undydd
- Cyhoeddwyd
Fe gollodd Morgannwg i Sir Warwick yng Nghwpan Undydd Royal London o naw wiced nos Lun.
Ar ôl galw'n gywir a dewis batio, fe gafodd Morgannwg noson wael gyda'r bat, gan lwyddo i sgorio dim ond 179 ar lain da yn Edgbaston.
Prif sgoriwr yr ymwelwyr oedd Will Bragg gyda 45.
Doedd y nod o 180 byth yn mynd i fod yn ddigon da, ac fe lwyddodd y tîm cartref i gyrraedd y targed yn hawdd gyda cholled un wiced yn unig, a chyda bron 12 pelawd yn weddill.
Varun Chopra (80 h.f.a.) a Jonathan Trott (73 h.f.a.) oedd y ser i Sir Warwick.
Gan fod Morgannwg wedi dechrau'r gystadleuaeth gyda chosb o ddau bwynt am gael wiced ddiffygiol yng nghystadleuaeth y llynedd, a'r posibilrwydd o gosb debyg wedi'r chwalfa yn erbyn Hampshire dros y penwythnos, mae gobeithion Morgannwg o barhau yn y gwpan eleni yn dila dros ben.
Cwpan Undydd Royal London - Y sgôr terfynol:
Morgannwg - 179 (48.4 pelawd)
Sir Warwick - 183 am 1 (38.1 pelawd)