Barnwr yn beirniadu Aelod Cynulliad
- Cyhoeddwyd

Mae barnwr Uchel Lys wedi beirniadu'r Aelod Cynulliad Ceidwadol Mohammad Asghar am ddwyn achos enllib "disylwedd" yn erbyn tri dyn o Gasnewydd.
Roedd Mr Asghar, ar y cyd a Mr Abdul Majahid, wedi cyhuddo pedwar dyn o enllib yn dilyn anghydfod am reolaeth dau Fosg yn y ddinas.
Fe orchmynnodd y llys y dylai un o'r diffynyddion, Mohammad Ali Hayat, dalu iawndal o £45,000 yr un i Mr Asghar a Mr Mujahid.
Cafwyd y tri dyn arall yn yr achos yn ddieuog, ac fe ddywedodd y barnwr y dylai'r Aelod Cynulliad dalu eu costau cyfreithiol.
Roedd yr achos yn ymwneud a honiadau enllibus a gyhoeddwyd mewn cylchlythyr a gwefan ynglŷn â Mr Asghar. Fe ddanfonwyd ffeil hefyd yn cynnwys yr honiadau at arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies.
Yn ôl y barnwr roedd yr honiadau yn 'ffug ac yn niweidiol' i enw da Mr Asghar a Mr Mujahid.
Ond yn ei ddyfarniad costau dywedodd y barnwr fod y cyhuddiadau yn erbyn tri o'r pedwar diffynnydd yn wan ac yn ddi-sail.
Gorchmynnodd y barnwr y dylai Mr Asghar a Mr Mujahid dalu costau'r tri diffynnydd.
Yn ôl y Barnwr roedd hyn "oherwydd yr ymddygiad afresymol wrth barhau a'r achos yn erbyn y tri diffynnydd."
Mae Mr Asghar a Mr Mujahid yn wynebu costau a allai fod yn werth degau o filoedd o bunnau.
Ar ddiwedd yr achos dywedodd Mr Asghar nad oedd am wneud sylw ynglŷn â'r penderfyniad.