Llafur "mewn picil"?

  • Cyhoeddwyd
Ymgeiswyr arweinyddiaeth y Blaid Lafur; Liz Kendall, Andy Burnham, Yvette Cooper a Jeremy CorbynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Ymgeiswyr arweinyddiaeth y Blaid Lafur; Liz Kendall, Andy Burnham, Yvette Cooper a Jeremy Corbyn

Be fydd dyfodol y blaid Lafur a phwy fydd ei harweinydd newydd? Cyn Brif Weinidog Cymru Rhodri Morgan sydd wedi bod yn pwyso a mesur yr ymgyrch hyd yma ar ran Cymru Fyw:

"Abba Tribute Band"

Disgrifir y pedwar ymgeisydd i arwain y Blaid Lafur fel 'Abba Tribute Band' gan rai, sef un flonden, un â gwallt tywyll, yr un barfog a'r 'un arall'!

Nid fi feddyliodd am y gymhariaeth gellweirus yna. I ddweud y gwir, y 'flonden' ei hunan, sef Yvette Cooper, yw awdur gwreiddiol y jôc. Chwarae teg iddi hi, hefyd. Mae eisie' ychydig bach o hiwmor i ysgafnhau gornest fel hon.

Yvette Cooper yw fy ffefryn i am resymau di-ri ond y prif reswm yw ei gallu. Hi yw'r un fe alla' i ddychmygu yn 10 Downing Street yn ffonio'r Arlywydd Hillary Clinton neu ta phwy arall sydd yn dilyn Obama ac yn cael ei chymryd o ddifri. Mae gallu ac asgwrn cefn gyda hi.

Ar ben hynny, yn ystod y brentisiaeth ofnadwy o hir mae'n rhaid gwneud cyn ennill yr hawl i fod yn Brif Weinidog, o'r pedwar, hithau fyddai'r un i beri fwya' o ddychryn ar David Cameron (a'i olynydd yn 2019) a'r cylch cynghorol pob bore dydd Mercher wrth baratoi at sesiwn Gwestiynau i'r Prif Weinidog yn Nhŷ'r Cyffredin.

Disgrifiad o’r llun,
Enillodd y Ceidwadwyr fwyafrif yn Etholiad Cyffredinol 2015. Fydd gobaith gan Lafur dan arweinydd newydd o'u disodli yn 2020?

"Rhy 'whit-'what"

Andy Burnham oedd y ffefryn cynnar i ennill y ras. Ei broblem ef, i fi, yw ei fod yn rhy 'wit-'wat. Nid wyf yn hollol siŵr ble y mae e'n sefyll ar rhai o'r pynciau llosg mawr.

Nid wyf yn ffyddiog y byddai ef yn stico at ei safbwynt, wedi mynegi ei farn. Galluog, ydi, ond yn rhy dueddol i 'fynd gyda'r afon', os ga'i ddefnyddio ffefryn ymadrodd fy Nhad-cu John Rees.

Yvette ac Andy yw'r ddau ymgeisydd sydd yn cystadlu am yr un tir, sef pleidlais fwyafrifol gymhedrol y Blaid Lafur.

Y faner goch goch

Ma'r ddau arall ar y ddwy adain, gyda Liz Kendall wedi lleoli ei hun ar yr adain dde, sef fel etifeddwraig athroniaeth Tony Blair a Peter Mandelson. Fe oedd eisie rhywun i gynrychioli'r adain yna ond adain ar aderyn sydd yn peidio a hedfan, o leia' ddim hyd yn hyn.

A beth am Jeremy Corbyn? Fel Diane Abbott yn 2010 a John McDonnell yn 2007, ei broblem yw bod adain chwith y Blaid Lafur yn ardal Llundain ddim yn yr un lle ag adain chwith Llafur ar draws y wlad i gyd.

Pan ymunodd Jeremy â'r ras, nid oedd am ennill y swydd ond dim ond i wneud yn siŵr fod rhywun yn chwifio'r faner goch goch goch er mwyn cadw'r ddadl i fynd.

Nawr ei fod yn cael llawer yn fwy o gefnogaeth na'r disgwyl, efallai ei fod yn dechrau brwydro am ennill. Nid wyf fi yn gallu ei gymryd o ddifri fel darpar Brif Weinidog. Nid wy'n siŵr ei fod yn cymryd ei hun o ddifri fel Prif Weinidog ar ôl 2020!

Disgrifiad o’r llun,
Oes gobaith gan un o'r rhain gyrraedd 10 Downing Street?

Llafur a Chymru

Mae'r goblygiadau i wleidyddiaeth Cymru yn anodd i'w rhagweld cyn gwybod y canlyniad. Y Torïaid fyddai'n fwya' hapus pe byddai Jeremy Corbyn yn ennill. Fe yw'r ymgeisydd agosaf at safbwynt ac athroniaeth Leanne Wood.

Ag eto, fe fyddai ei ethol yn arweinydd yn agor drws efallai i Blaid Cymru o achos digalonni gan Aelodau Llafur o'r Cynulliad a Thŷ'r Cyffredin fyddai ddim yn gyfforddus gyda'r cyfeiriad newydd...

I ddweud y gwir, dyna'r picil mae'r Blaid Lafur ynddo fe. Fe ro'dd canlyniad yr Etholiad ym mis Mai yn gymaint o siom fod canran sylweddol o'r aelodaeth nawr yn wfftio'n gyfan gwbl am ennill yr Etholiad nesa' hefyd.

Mae ymateb emosiynol fel hyn i'r golled annisgwyl o fawr yn ôl ym mis Mai yn beryglus iawn i obaith y Blaid Lafur o gael ei hystyried fel Llywodraeth gredadwy yn 2020.

Nid cymdeithas ddadl mo'r Blaid Lafur ond mudiad i ennill etholiadau a ffurfio llywodraeth gyda rhaglen gredadwy.

Disgrifiad o’r llun,
Mae Rhodri Morgan yn credu bod y Blaid Lafur "mewn picil".