Enwi dynes fu farw mewn gwrthdrawiad yn Aberdâr
- Published
image copyrightArall
Mae'r heddlu wedi enwi dynes fu farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd yn Aberdâr yn gynnar bore dydd Llun. Enw'r ddynes oedd Sammy-Jo Davies, ac roedd hi'n 19 oed.
Roedd wyth o bobl yn teithio yn y fan LDV Maxus coch am 03:30 pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad. Fe ddioddefodd saith teithiwr arall anafiadau yn ystod y digwyddiad.
Cafodd gyrrwr y fan, Kyle Perkins, 25 oed o Gwmafon, Aberdâr, ei arestio dan amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru yn beryglus, gyrru heb yswiriant, mynd a cherbyd heb ganiatad, a methu ag aros yn dilyn gwrthdrawiad.
Mae wedi ei gadw yn y ddalfa yn dilyn gwrandawiad llys ddydd Mawrth. Fe fydd yn ymddangos yn Llys y Goron Merthyr Tudful yn ddiweddarach.
Mae'r heddlu wedi apelio am dystion i'r digwyddiad.