Pwy fydd Dysgwr y Flwyddyn 2015?

  • Cyhoeddwyd
O'r chwith i'r dde: Deiniol Carter, Debora Morgante, Gari Bevan, Diane Norrell a Patrick YoungFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
O'r chwith i'r dde: Deiniol Carter, Debora Morgante, Gari Bevan, Diane Norrell a Patrick Young

Bydd enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2015 yn cael ei gyhoeddi mewn noson arbennig yng ngwesty Llyn Efyrnwy nos Fercher.

Mae pump, yn hytrach na phedwar, yn cystadlu yn y rownd derfynol eleni am fod y safon cyn uched.

Y pump a ddaeth i'r brig yw Gari Bevan, Merthyr Tudful, Deiniol Carter, Caerdydd, Debora Morgante, Rhufain, Diane Norrell, Sir Amwythig a Patrick Young, Llan Ffestiniog.

Bu Cymru Fyw yn holi'r pump sydd yn y ras.

DEINIOL CARTER

Yn wreiddiol o Gernyw, mae Deiniol Carter yn ddatblygwr gwefan gyda Chymdeithas Adeiladu'r Principality yng Nghaerdydd. Symudodd i Gymru dair blynedd yn ôl, ac aeth ati i ddysgu'r Gymraeg ar ôl bod yn edrych ar arwyddion ffyrdd yng Nghymru a meddwl sut roedd gwahanol eiriau'n cael eu hynganu.

Disgrifiad,

Deiniol Carter sy'n wynebu cwestiynau Cymru Fyw y tro 'ma

DIANE NORRELL

Yn wreiddiol o Wrecsam, cafodd Diane Norrell ei magu ar aelwyd ddi-Gymraeg, er bod ei thad yn gallu siarad yr iaith. Roedd gan Diane ddiddordeb yn y Gymraeg pan yn yr ysgol, ond ar ôl astudio'r pwnc hyd at Safon Uwch, aeth i'r brifysgol lle graddiodd mewn Saesneg, cyn symud o Gymru a byw yn Sir Amwythig am flynyddoedd.

Disgrifiad,

Diane Norrell sy'n wynebu cwestiynau Cymru Fyw y tro 'ma

DEBORA MORGANTE

Yn wreiddiol o Tuscany, yn Yr Eidal, mae Debora Morgante yn byw ac yn gweithio mewn banc yn Rhufain. Fe deimlodd yn gartrefol yng Nghymru yn syth tra yma ar wyliau, a phenderfynu dysgu Cymraeg yn 2012. Drwy ddefnyddio gwefan y BBC ac adnoddau eraill ar-lein i gychwyn, yn fuan iawn roedd Debora'n teimlo bod y Gymraeg yn mynd i fod yn rhan bwysig o'i bywyd felly prynodd lyfr gramadeg, dysgu'r holl lyfr ddwywaith a chofrestru ar gwrs Cymraeg yn Llanbedr Pont Steffan yng ngwanwyn 2014. Ers hynny, mae hi wedi parhau gyda'i hastudiaethau ac mae wrthi'n dilyn cwrs Cymraeg ymarferol lefel Canolradd ar-lein.

Disgrifiad,

Mae Debora Morgante yn un o'r pump fydd yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn eleni.

GARI BEVAN

Mae Gari Bevan yn byw ym Merthyr Tudful, ac roedd ei deulu'n rhan allweddol o'i benderfyniad i ddysgu Cymraeg. Penderfynodd ef a'i wraig, Siân, anfon eu plant i ysgol Gymraeg. Erbyn hyn, mae Siân a dau o feibion Gari'n defnyddio'r Gymraeg yn rhinwedd eu swyddi ac mae ei wyrion yn mynd i ysgolion Cymraeg hefyd.

Disgrifiad,

Gari Bevan yn ateb cwestiynau Cymru Fyw

PATRICK YOUNG

Mae Patrick Young yn gyfarwyddwr opera, sy'n byw yn Llan Ffestiniog, Gwynedd. Symudodd i'r ardal yn 2001 wedi cyfnod o fyw yn Yr Eidal, ac aeth ati i ddysgu Cymraeg fel arwydd o gefnogaeth i weddill y teulu pan y cychwynnodd ei chwe phlentyn yn yr ysgol yn lleol.

Disgrifiad,

Dysgodd Patrick Gymraeg er mwyn cymdeithasu