Carcharu tad am dorri esgyrn babi

  • Cyhoeddwyd
mold crown
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y tad 22 oed ei garcharu am wyth mlynedd

Carcharwyd tad o Wrecsam am wyth mlynedd am ysgwyd ei fabi tair wythnos oed gan achosi anafiadau difrifol.

Clywodd llys y Goron yr Wyddgrug fod yna doriadau i asennau a dwy fraich y plentyn.

Roedd y diffynnydd 22 oed wedi gwadu cyhuddiad o anafu bwriadol ond fe'i cafwyd yn euog.

Yn ol y barnwr David Hale roedd y tad o gymeriad da, ac mai'r unig eglurhad oedd ei fod wedi "colli arni" ar y noson honno.

Clywodd y llys fod y babi wedi bod yn crio ac nad oedd y tad wedi cysgu yn dda'r noson gynt.

"Ond nid ydych yn gallu colli tymer gyda babi - a dyna beth wnaethoch chi."

'Damwain'

Dywedodd y barnwr fod barn feddygol yn credu fod y tad wedi gafael yn y babi a'i ysgwyd.

Roedd y tad wedi cyfaddef ei fod yn euog o esgeulustod i blentyn ym mis Gorffennaf y llynedd - gan iddo beidio ceisio help meddygol yn syth.

Clywodd y llys fod y diffynnydd a'i bartner wedi gwahanu cyn i'r babi gael ei eni.

Roedd y dyn wedi gwarchod y babi ar ddau achlysur blaenorol.

Yn ôl y diffynnydd cafodd yr anafiadau eu hachosi yn ddamweiniol wrth iddo syrthio tra'n dal y babi.

'Anymwybodol'

Dywedodd Simon Mills, ar ran yr erlyniad, fod y diffynnydd wedi dweud wrth y fam ei fod wedi disgyn ond fod y plentyn yn iawn.

Ond wrth i'r fam geisio newid dillad y babi, meddai Mr Mills, fe welodd hi fod ei fraich yn llipa.

Dywedodd y diffynnydd ei fod yn flinedig a dan bwysau, ond nid yn flin na'n ddig ar y noson dan sylw.

Roedd o'n honni iddo faglu dros fasged, gan syrthio a tharo ei hun yn anymwybodol.

Ar ôl dihuno dywedodd fod y babi yn crio, ond ddim yn edrych mewn poen.

Dywedodd nad oedd wedi ystyried galw ysbyty ond ei fod wedi ceisio galw ei gyn bartner.

Mae'r plentyn wedi gwella'n llwyr o'i anafiadau erbyn hyn.