Elusen anabledd yn canmol darpariaeth Stadiwm y Liberty

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm Libery
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Stadiwm y Liberty yn bumed yn nhabl elusen Revitalise

Mae clwb pêl-droed Abertawe wedi ei ganmol am y nifer o leoedd sy'n cael eu neilltuo ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn.

Yn ôl yr elusen Revitalise, mae Stadiwm y Liberty yn darparu safleoedd ar gyfer 179 o gefnogwyr y tîm cartref, a 12 o leoedd ar gyfer yr ymwelwyr.

Yn ogystal ag Abertawe, Arsenal ac AFC Bournemouth yw'r unig dimau yn yr Uwchgynghrair sy'n darparu 150 o leoedd i ddefnyddwyr cadair olwyn - y rhif sy'n cael ei argymell mewn canllawiau swyddogol.

Roedd Stadiwm y Liberty yn bumed yn nhabl Revitalise, tabl sy'n mesur pa mor fodlon yw cefnogwyr clybiau'r cynghrair gyda mynediad i feysydd pêl-droed.

Yn ogystal â mynediad i'r maes, cafodd cefnogwyr eu holi ynglŷn â stiwardiaid, golygfeydd o'r maes chwarae, profiad diwrnod y gêm, a'r teimlad o ddieithrio cymdeithasol.