Gostyngiad yn nifer gwrandawyr Radio Cymru a Radio Wales

  • Cyhoeddwyd
stiwdio radio
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru Wales: "Byddwn ni'n edrych yn ofalus ar y ffigyrau yma"

Bu gostyngiad yn nifer gwrandawyr gorsafoedd Radio Cymru a Radio Wales rhwng Ebrill a Mehefin y flwyddyn hon.

Yn ôl Rajar, y corff sy'n casglu'r ffigyrau, bu gostyngiad o 10,000 ar gyfartaledd yn y nifer oedd yn gwrando yn wythnosol ar BBC Radio Cymru yn ystod ail chwarter 2015, pan roedd y gynulleidfa wythnosol o 116,000.

Fe wnaeth nifer gwrandawyr BBC Radio Wales ostwng 18,000 i 408,000.

Hwn oedd yr eildro yn olynol i ffigyrau Radio Wales ddangos gostyngiad.

Ond mae ffigyrau Radio Cymru yn parhau yn uwch nag oeddynt chwe mis yn ôl, a hynny oherwydd cynnydd iach yn nhri mis cynta'r flwyddyn.

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru Wales: "Mae'r ffigyrau diweddaraf gan Rajar, gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod nifer gwrandawyr Radio Cymru a Radio Wales wedi gostwng ychydig dros y chwarter diwethaf.

"Byddwn yn edrych yn ofalus ar y ffigyrau yma er mwyn sicrhau ein bod yn cryfhau'r ddwy orsaf i'r dyfodol yn ogystal â monitro sut mae gwrandawyr yn defnyddio ein gwasanaethau radio yn amgenach, gan gynnwys podlediadau, lle 'rydym wedi gweld cynnydd, a lawrlwythiadau ar BBC iPlayer Radio."

O ran y gorsafoedd eraill, roedd y darlun yn un cymysg.

Llwyddodd Capital De Cymru i gynyddu nifer y gwrandawyr o 13,000, gan gyrraedd cyfartaledd wythnosol o 199,000.

Roedd yna gynnydd hefyd i Smooth Radio De Cymru, gyda chynulleidfa'r orsaf yn cynyddu 20,000 i 75,000 yn wythnosol ar gyfartaledd.

Colli 14,000 oedd hanes Swansea Sound, gyda'r gynulleidfa wythnosol yn gostwng i 50,000, tra bod 28,000 wedi gadael Capital, gorsaf sy'n gwasanaethu gogledd ddwyrain Cymru a gogledd orllewin Lloegr.

GORSAFOEDD RADIO SY'N GWASANAETHU CYMRU:

Cynulleidfa Wythnosol, (newid +/- ) a chanran yn yr ardal ddarlledu

  • BBC Radio Cymru 116,000 (-10,000) 2.4%
  • BBC Radio Wales 408,000 (-18,000) 5.8%
  • Nation Radio 179,000 (+3,000) 2.8%
  • Nation Hits 39,000 (-4,000) 1.7%
  • Bridge FM 37,000 (-4,000) 11.9%
  • Radio Sir Benfro 42,000 (-1,000) 20.3%
  • Radio Ceredigion 20,000 (+2,000) 7.8%
  • Radio Sir Gâr 31,000 (-6,000) 9.3%
  • Capital De Cymru 199,000 (+13,000) 5.6%
  • Capital Gogledd Orllewin (Lloegr) a Chymru 146,000 (-28,000) 4.7%
  • Heart Gogledd Cymru 129,000 (-2,000) 7.3%
  • Heart De Cymru 458,000 (+11,000) 10.3%
  • The Wave 139,000 (-6,000) 14%
  • Swansea Sound 50,000 (-14,000) 3.5%
  • Smooth Radio Gogled Orllewin (Lloegr) a Chymru 91,000 (+22,000) 3%
  • Smooth Radio De Cymru 75,000 (+20,000) 3.4%
  • 107.6 Juice FM 251,000 (-6,000) 8.6%