Ffioedd parcio: Elw o £9m i gynghorau y llynedd

  • Cyhoeddwyd
Ceir

Fe wnaeth cynghorau Cymru elw o dros £9m o ffioedd parcio y llynedd, yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Cymru.

Mae'r ffigwr dros £600,000 yn uwch na'r flwyddyn flaenorol.

Daw'r newyddion wrth i rai o fusnesau stryd fawr Cymru ddweud eu bod mewn trafferth a dylid cael gwared ar godi tâl am barcio i annog siopwyr i ddod yn ôl i ganol trefi.

Dywedodd Sefydliad yr RAC y dylai awdurdodau lleol fod yn rheoli gorlawnder, nid codi arian.

Mae stryd fawr Aberteifi - fel nifer o drefi - wedi bod yn dioddef yn economaidd, ond yn ddiweddar fe gafodd y peiriannau talu am barcio eu fandaleiddio yno.

Roedd hyn yn golygu bod parcio am ddim am ddwy wythnos, a dywedodd masnachwyr eu bod wedi gwneud tua 40% yn fwy o fusnes yn yr amser cyn i'r peiriannau gael eu trwsio.

Disgrifiad o’r llun,
Fe gafodd beiriannau talu eu fandaleiddio yn Aberteifi yn ddiweddar

"Does neb yn cymeradwyo'r difrod troseddol, ond pan nad oedd rhaid talu, roedd pobl yn siopa ac yn mwynhau'r profiad," meddai cadeirydd Masnachwyr Aberteifi, Martin Radley.

"Roedden nhw'n aros am fwy o amser, yn mynd i gaffis a bwytai i gael coffi ac ymlacio heb fod yn rhaid iddyn nhw fod yn cadw golwg ar yr amser ac ofni cael dirwy."

Dywedodd Gyngor Ceredigion: "Gall nifer o ffactorau ddylanwadu ar nifer yr ymwelwyr i stryd fawr unrhyw dref.

"Dyw ffioedd parcio ddim yn uwch yn Aberteifi nac yn unrhyw dref fawr arall yng Ngheredigion. Bydd yr awdurdod yn parhau i gefnogi cyfleoedd i alluogi i'r economi a busnesau lleol i ddatblygu a ffynnu."

£3m i Gaerdydd

Fe wnaeth cynghorau Cymru gyfanswm o bron i £9.3m o ffioedd parcio yn ystod 2014, gyda chyngor Caerdydd yn gwneud yr elw mwyaf o ychydig yn llai na £3m.

Un cyngor sy'n gwneud ychydig iawn o elw o barcio ydy Bro Morgannwg (£53,000), ond gall hynny newid yn fuan gyda'r cyngor yn bwriadu cyflwyno tâl mewn nifer o ardaloedd lle nad oes cost am barcio ar hyn o bryd.

Un o'r ardaloedd arfaethedig ydy'r Bont-faen, ac mae rhai masnachwyr yn ofni y gallai arwain at fwy o siopau yn cau, gyda nifer wedi cau eisoes ar y stryd fawr.

Dywedodd Lance Pryor-Collins, sy'n rhedeg busnes torri gwallt yn y dref: "Mae hi'n anodd parcio yn y Bont Faen fel y mae hi. Os fydd rhaid i bobl dalu, ni fydd pobl yn dod yma o gwbl."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Fe gafodd barcio am ddim ei dynnu o saith safle yn Sir Benfro fis diwethaf

Mae hi'n debygol y bydd Sir Gaerfyrddin yn cyflwyno cynllun o barcio am ddim am ddwy awr mewn nifer o feysydd parcio fel arbrawf.

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Edmunds: "Rydw i wedi siarad gyda nifer o fasnachwyr ac maen nhw'n meddwl y bydd yn cael effaith."

Tra bo'r dadlau am ffioedd parcio yn parhau ledled Cymru, mae cyfarwyddwr Sefydliad yr RAC, Steve Gooding wedi cwestiynu'r elw sy'n cael ei wneud.

Dywedodd: "Rôl yr awdurdod lleol yw rheoli traffig a sicrhau mynediad rhwydd, nid cynhyrchu elw gormodol."