'Camddefnyddio alcohol mewn perygl o gael ei anwybyddu'

  • Cyhoeddwyd
Alcohol

Mae ACau wedi rhybuddio bod effaith "ddinistriol" camddefnyddio alcohol mewn perygl o gael ei hanwybyddu oherwydd y pwyslais ar sylweddau seicoweithredol neu "gyffuriau cyfreithlon".

Yn 2013 achosodd alcohol fwy o farwolaethau yng Nghymru - 467 - na chyffuriau cyfreithlon neu anghyfreithlon.

Mae pwyllgor iechyd y Cynulliad eisiau i fwy o feddygon teulu ganolbwyntio ar driniaeth alcohol, a sicrhau mwy o help i gyn-garcharorion, pobl ddigartref a phobl hŷn.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn buddsoddi £50m eleni mewn rhaglenni i fynd i'r afael â chamddefnydd alcohol a chyffuriau.

'Dinistrio bywydau'

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, David Rees, wedi dweud: "Gall camddefnyddio alcohol a sylweddau ddinistrio bywydau unigolion, eu teuluoedd a'u cymunedau.

"Wrth edrych ymlaen at Fesur Cymru, rydym yn gofyn am sicrwydd y bydd yn rhoi set briodol o bwerau i'r Cynulliad fel y gall Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â phroblem camddefnyddio alcohol a sylweddau yn fwy effeithiol a chyfannol."

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Mae'r £50m rydyn ni'n ei fuddsoddi eleni mewn rhaglenni i fynd i'r afael â chamdriniaeth o gyffuriau ac alcohol yn dangos ein hymrwymiad i leihau'r niwed sy'n cael ei achosi gan gamddefnydd."