Ar Goll Mewn Cemeg wedi ennill Brwydr y Bandiau
- Cyhoeddwyd

Ar Goll Mewn Cemeg yw enillwyr Brwydr y Bandiau Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau 2015.
Band pync o ardal Y Barri ym Mro Morgannwg ydyn nhw, ac maen nhw hefyd yn cael eu hadnabod yn Saesneg fel Lost in Chemistry.
Terfysg - band roc trwm o Fôn - ddaeth yn ail, gyda Cadno - band pum aelod o Gaerdydd - yn drydydd.
Roedd 15 band wedi cystadlu yn rownd gyntaf y gystadleuaeth, fu'n cael ei chynnal dros dair noson - yng Nghaernarfon, Caerdydd a Llanelli - ym mis Mai.
Fe ddaeth chwe band i'r brig o'r rownd gyntaf - Cordia, Raffdam, Hyll, Terfysg, Ar Goll Mewn Cemeg a Cadno - fu'n cael y cyfle i gystadlu ar Lwyfan y Maes ym Maldwyn nos Fawrth.
Cyn-gitarydd Big Leaves a Sibrydion, Mei Gwynedd, Osian Huw o'r band Candelas a'r gantores Casi Wyn oedd beirniaid y rownd derfynol.
Yn y gorffennol, mae dwy gystadleuaeth wedi eu cynnal - un gan C2 Radio Cymru a Mentrau Iaith Cymru ac un arall gan yr Eisteddfod.
Eleni fe gafodd y ddwy gystadleuaeth eu huno a chafodd y digwyddiad ei drefnu ar y cyd gan Radio Cymru, Mentrau Iaith Cymru a'r Eisteddfod.
Bydd yr enillwyr nawr yn cael y cyfle i chwarae ym Maes B nos Sadwrn, perfformio sesiwn ar C2 Radio Cymru, ynghyd â chael eu ffilmio ar gyfer rhaglen Ochr 1, S4C a'u cynnwys yng nghylchgrawn Y Selar.
Bydd Ar Goll Mewn Cemeg hefyd yn derbyn gwobr ariannol o £1,000.
Roedd gwobr arall o £100 ar gael i'r cerddor gorau yn y gystadleuaeth, ac fe aeth y wobr i Siôn Gwilym, drymiwr y band Terfysg.