Cynllun ar gyfer banc datblygu Cymru wedi'i ohirio

Mae cynllun ar gyfer banc datblygu yng Nghymru wedi cael ei ohirio gan weinidogion, yn ôl arweinwyr busnes a gwleidyddion.
Mae'r Gweinidog Economi Edwina Hart wedi ysgrifennu at ACau am y banc a dyfodol Cyllid Cymru, corff cyllid busnes hyd-braich Llywodraeth Cymru.
Mae beirniadaeth wedi bod am ei gostau credyd a'i record o greu swyddi.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y gwaith o greu banc datblygu yn parhau.
Yr amcangyfrif yw bod bwlch o £500m y flwyddyn rhwng yr hyn mae busnesau Cymru eisiau ei fenthyg a'r hyn mae banciau yn fodlon ei fenthyg.
Busnesau llai
Fe gafodd cyfres o adroddiadau annibynnol gan yr academydd yr Athro Dylan Jones-Evans eu comisiynu gan Ms Hart.
Fe wnaeth hyn arwain at awgrym bum mis yn ôl y dylid sefydlu banc datblygu i wneud benthyca'n haws, yn enwedig i fusnesau llai.
Fe wnaeth yr Athro Dylan Jones-Evans nodi cyfnod o 12 mis i'r corff newydd gael ei sefydlu.
Byddai Cyllid Cymru wedi dod yn rhan o'r banc newydd.
Mae dadlau wedi bod yn y byd busnes am y ffordd orau i ddatblygu.
Cynllun busnes
Mewn llythyr i ACau, dywedodd Ms Hart y byddai Cyllid Cymru yn cymryd nifer o'r dyletswyddau oedd wedi eu bwriadu ar gyfer y banc datblygu.
Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda banciau i gefnogi cwmnïau sydd wedi ei chael yn anodd i gael nawdd.
Bydd Cyllid Cymru hefyd yn dechrau'r broses o benodi prif weithredwr newydd.
Dywedodd Ms Hart wrth ACau y bydd Llywodraeth Cymru a Cyllid Cymru yn gweithio ar y cyd ar gynllun busnes ar gyfer banc datblygu.
Dywedodd llefarydd o Llywodraeth Cymru: "Mae'r gwaith o greu banc datblygu ar gyfer Cymru yn parhau.
"Mae ACau yn cydnabod pwysigrwydd adeiladu ar sgiliau ac arbenigedd Cyllid Cymru wrth benderfynu ar fodel terfynol y banc datblygu."