BBC Cymru Fyw

Dau gar wedi'u dinistrio gan fflamau yng Nghaerdydd

Published
media captionFe ddigwyddodd y gwrthdrawiad y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd

Mae dau gar wedi'u dinistrio gan fflamau yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tri char yng Nghaerdydd.

Fe ddigwyddodd y ddamwain y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd ar Heol Lecwydd am 16:34 ddydd Mawrth.

Fe wnaeth griw o orsaf Canol Caerdydd gyrraedd a diffodd y tân gyda chwistrellwr.

Ni chafodd unrhyw un eu hanafu yn y digwyddiad.

image copyrightTwitter/ Julie