Llywodraeth yn cynnal ymchwiliad i gymdeithas dai
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod yn cynnal ymchwiliad i rai o weithgareddau Cymdeithas Tai Cantref yng ngorllewin Cymru.
Mae'r gymdeithas dai yn darparu cartrefi fforddiadwy a gwasanaethau tai i tua 3500 o bobl mewn pedwar ardal yn y gorllewin - Ceredigion, Sir Benfro, Gogledd Sir Gaerfyrddin ac ardal Machynlleth.
Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd ynglŷn â natur yr ymchwiliad.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ymchwiliad Llywodraeth Cymru wedi dechrau yn Tai Cantref. Fe fyddai yn amhriodol i ni wneud unrhyw sylw pellach hyd nes i'r ymchwiliad gael ei gwblhau."
Mewn datganiad i Cymru Fyw dywedodd llefarydd ar ran Cantref eu bod "yn credu mewn 'rhoi ein cwsmeriaid wrth wraidd ein gwaith' ac rydym yn dymuno sicrhau ein tenantiaid bod Cantref yn cydymffurfio'n llawn gyda'r holl ofynion ariannol a rheoliadol hyd yn hyn.
"Yn ddiweddar, cawsom archwiliad statudol cadarn a llwyddiannus ac mae'n dangosyddion perfformiad yn dangos ein bod yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i'n cwsmeriaid.
"Rydym yn croesawu'r ymchwiliad ar y sail y bydd unrhyw ganfyddiadau er budd i'r gymdeithas wrth iddi symud yn ei blaen."