Teyrnged i feiciwr modur fu farw ar yr A470

  • Cyhoeddwyd
Stuart CarneyFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd deulu Stuart Carney ei fod yn "arweinydd ac yn arwr i nifer"

Mae teulu beiciwr modur fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A470 ger Merthyr Tudful wedi talu teyrnged i "ddyn hoffus a dewr".

Bu farw Stuart Carney o'r Barri yn y ddamwain ger cylchfan yn Nant Ddu ddydd Sul.

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu ei fod yn "arweinydd ac yn arwr i nifer".

Ychwanegwyd ei fod yn "ŵr ffyddlon, tad gofalgar ac yn ffrind gorau".