Betsi Cadwaladr: Undeb Unison yn cynnal arwolwg
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd y bwrdd iechyd ei roi dan fesurau arbennig yn dilyn sgandal uned Tawel Fan
Mae arolwg i gael ei gynnal i amgylchiadau gweithio yr 16,000 o bobl sy'n cael eu cyflogi gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Fe gyhoeddodd undeb Unison ei bod am gynnal yr ymchwiliad mewn ymateb i benderfyniad Llywodraeth Cymru i roi'r bwrdd iechyd dan fesurau arbennig oherwydd pryder am ei arweinyddiaeth.
Mae wedi derbyn dros 1,000 o ymatebion i'w holiadur ac fe fydd yn cynnal cyfarfodydd mewn tri ysbyty fis yma.
Mae'r undeb yn bwriadu cyflwyno adroddiad i helpu swyddogion i greu cynllun gweithredu.
Fe fydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn Ysbyty Glan Clwyd ddydd Iau, Ysbyty Gwynedd ar 10 Awst ac Ysbyty Maelor Wrecsam ar 17 Awst.
Dywedodd ysrifennydd Unison yng ngogledd Cymru, Jan Tomlinson, mai'r nod yw gwella amgylchiadau gweithio staff.