BBC Cymru Fyw

30,000 o wenyn wedi'u dwyn o fferm ar Ynys Môn

Published
image copyrightThinkstock
image captionCredir bod y lladron â gwybodaeth am gadw gwenyn
Mae Heddlu'r Gogledd yn dweud bod 30,000 o wenyn wedi eu dwyn o fferm ar Ynys Môn.
Fe gafodd y gwenyn eu cymryd o fferm ar gyrion Bae Cemaes, rhyw bryd rhwng 20 Gorffennaf a 4 Awst.
Gyda phoblogaethau'n gostwng, dywedodd y Sarjant Gareth Rees bod gwenyn "o ddiddordeb cenedlaethol" ar hyn o bryd.
Dywedodd y Sarjant Rees ei bod yn debygol bod gan y troseddwyr wybodaeth am gadw gwenyn ac apeliodd i'r "gymuned cadw gwenyn am wybodaeth."