Mwy'n manteisio ar fand eang cyflym yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
band eang ffibrFfynhonnell y llun, Thinkstock

Cymru sydd â'r canran uchaf o leoedd all dderbyn band eang cyflym o blith y gwledydd datganoledig, yn ôl adroddiad gan y corff rheoleiddio Ofcom.

Fe ddywed Ofcom fod bron i 79% o gartrefi neu fusnesau yng Nghymru yn gallu derbyn band eang cyflym, cynnydd o 24% ers 2014.

Mae'n golygu cyflymdra o 30 mega-bit yr eiliad.

Yng Nghymru mae 77% wedi manteisio ar hyn, sy'n 6% yn fwy nag yn yr Alban a 8% yn fwy nag yng Ngogledd Iwerddon.

Dywed adroddiad y rheoleiddiwr mai'r rhaglen band eang cyflym a ddechreuodd yn 2013 yw'r prif reswm am y cynnydd.

Erbyn Mawrth 2015 roedd 425,000 o gartrefi neu fusnesau yng Nghymru yn derbyn band eang ffibr cyflym.

Teledu a radio

Mae adroddiad OFCOM hefyd yn nodi bod pobl Cymru ar gyfartaledd yn treulio 4 awr 11 munud bob dydd yn gwylio'r teledu - mwy na phobl Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae mwy o bobl Cymru yn gwrando ar y radio, ac maen nhw'n gwrando am gyfnodau hwy, nag yn y DU yn ei chyfanrwydd.

Roedd pobl sy'n gallu siarad neu ysgrifennu Cymraeg yn llawer mwy tebygol i fod â radio DAB yn y cartref (53% o'i gymharu â 39% o holl oedolion Cymru).

Rhyngrwyd a thelathrebu

Bellach mae gan fwyafrif oedolion Cymru gyfrifiadur tabled yn y cartref (60%) o'i gymharu â 45% y llynedd.

Ond gliniaduron yw'r ddyfais bwysicaf ar gyfer mynd ar-lein yn ôl 37% o ddefnyddwyr rhyngrwyd.

Mae mwy ohonyn nhw'n defnyddio Twitter yng Nghymru (48%) nag yn Lloegr (49%), Yr Alban (32%) a Gogledd Iwerddon (33%).

Mae perchnogaeth ffonau clyfar yn sefydlog, mae un gan chwech allan o bob deg oedolyn, sy'n gyson â'r ffigwr ar draws y DU.

Ond mae canran y cartrefi yng Nghymru sydd â ffôn symudol yn unig wedi cwympo (17% yn 2015 o'i gymharu â 22% yn 2014).

Roedd 8% yn fodlon gyda gwasanaeth y Post Brenhinol.