Cofio Sbardun yn y Steddfod
- Cyhoeddwyd

Mi fydd offerynnau Alun 'Sbardun' Huws yn cael eu dosbarthu i gerddorion ifanc sy'n dechrau cyfansoddi, a hynny yn unol â'i ddymuniad.
Daeth y cyhoeddiad ar ddiwedd sesiwn yn y Babell Lên i gofio 'Dyddiau Roc a Rôl' y cerddor, fu farw fis Rhagfyr diwetha'.
Y ddarlledwraig Nia Roberts oedd yn cadeirio'r deyrnged ac mi wnaeth hi ei ddisgrifio fel "cenedlaetholwr, tynnwr lluniau a thynnwr coes."
"Dyn oedd yn cymryd ei waith o ddifri, ond oedd hefyd yn llawn direidi," meddai. "Dyn fysa chi yn teimlo llawer, llawer gwell yn ei gwmni fo."
'Dyn direidus'
Bwriad y sesiwn oedd edrych yn ôl ar ei fywyd, o'r dyddiau cynnar tan yn fwy diweddar, a hynny yng ngwmni ffrindiau o'i ardal enedigol- Penrhyndeudraeth, o ddyddiau coleg a rhai o aelodau'r bandiau niferus y bu'n chwarae hefo nhw. Mi oedd y babell yn orlawn.
Disgrifiodd ei ffrindiau Sbardun fel dyn 'direidus' oedd yn hoffi chwarae triciau ar bobl, tra dywedodd Emyr Huws Jones ei fod wedi creu argraff arno o'r foment gyntaf y gwelodd o yn y brifysgol.
"Munud welish i fo, mi o'n i yn gwybod bod 'na rwbath arbennig amdana fo," meddai.
Yn y coleg y dechreuodd y ddau chwarae gitâr, ac yna mynd ati ymhen amser i sefydlu Tebot Piws.
Mi ddywedodd Dewi Pws fod edrychiad Sbardun, a oedd yn hipiaidd, hefyd wedi creu argraff ar ei fam.
"Mi oedd mam yn dwli arno fe. 'Pam i chi'n licio Sbardun?' 'Mae e yn edrych mor llwm'," oedd yr ateb, meddai Dewi Pws.
'Licio trefn'
Er ei fod yn hoffi tynnu coes, pwysleisiodd Tecwyn Ifan - oedd yn aelod o Ac Eraill gyda Sbardun - ei fod yn gymeriad oedd yn licio trefn. Dyma rywbeth yr oedd Geraint Evans, cynhyrchydd gyda'r BBC yn ategu hefyd.
Ychwanegodd: "Beth oedd yn 'neud Sbardun yn arbennig, oedd llygaid artist gyda fe, clust cerddor a hefyd clust bardd."
Gwisgo cap oedd Bryn Fon ar y llwyfan a hynny er teyrnged i'w gyfaill am ei fod yn "ddyn cap ac yn ddyn het". Mi ddywedodd y canwr fod Sbardun yn medru bod yn ben galed ac yn "mwynhau ambell i ffeit weithia' ond mewn ffordd hollol gyfeillgar ar ôl iddo fo hitio chdi."
Wrth gloi mi ofynodd Nia Roberts beth oedd gwaddol Sbardun. Mi atebodd Bryn Fon, gan gyfeirio at y ffaith ei fod wedi penderfynu dewis canu Strydoedd Aberstalwm.
"Wedyn gallu camu'n ôl a gwrando ar faint bynnag filoedd oedd yna yn edrych yn ofnadwy o ifanc ac yn gwybod bob gair. Felly jest y connect yna mae o'n 'neud efo bob cenhedlaeth."
Ar y ffordd allan mi gafwyd casgliad ar gyfer Neuadd Penrhyn, ble y bydd ystafell yn y neuadd yn cael ei gweddnewid ac yn cael ei henwi ar ôl y canwr a'r cyfansoddwr.