Cytundeb newydd i Fabianski gydag Abertawe
- Published
image copyrightGetty Images
Mae'r gôl-geidwad Lukasz Fabianski wedi arwyddo cytundeb newydd pedair blynedd o hyd gydag Abertawe.
Fe wnaeth Fabianski, sy'n 30, ymuno a'r Elyrch o Arsenal ym mis Mai 2014.
Roedd y golwr o Wlad Pwyl wedi cael ei gysylltu gyda thîm Roma o'r Eidal.
Dywedodd rheolwr Abertawe, Garry Monk fod o'n newyddion gwych.
"Mae'n newyddion da i weddill y tîm, yn dangos faint mae o'n mwynhau'r hyn rydym yn ceisio ei wneud yma."