Damwain A470: Ymchwiliad ar ben
- Cyhoeddwyd
Mae crwner wedi clywed bod ymchwiliad yr heddlu i wrthdrawiad lle bu farw pedwar o bobl wedi dod i ben.
Bu farw Alesha O'Connor, Rhodri Miller, Corey Price a'r bensiynwraig Margaret Challis yn y digwyddiad ar yr A470 ger Aberhonddu yn gynharach eleni.
Wedi'r gwrthdrawiad fe gafodd saith o lanciau yn eu harddegau eu harestio ar amheuaeth o yrru'n beryglus, ond does dim cyhuddiadau wedi eu dwyn yn erbyn neb hyd yn hyn.
Dywedodd Sarjant Gary Jones o Heddlu Dyfed Powys wrth y crwner Andrew Barkley:
"Rydym wedi cwblhau'r ymchwiliad i'r gwrthdrawiad trasig yma, ac fe gafodd y canlyniadau eu pasio i Wasanaeth Erlyn y Goron ar 17 Gorffennaf.
"Rwy'n disgwyl clywed penderfyniad ganddyn nhw o fewn y pedair i chwe wythnos nesa'."
Credir mai Rhodri Miller, 17 oed, oedd wrth lyw'r car fu mewn gwrthdrawiad rhwng Storey Arms ac Aberhonddu ar 17 Mawrth gydag Alesha O'Connor a Corey Price yn teithio yn y car gydag ef.
Roedd Mrs Challis, 66 oed o Ferthyr Tudful, yn y car arall.
Daeth Mr Barkley â'r gwrandawiad i ben gan ddatgan ei fwriad i ailddechrau ymhen deufis.
Straeon perthnasol
- 14 Mehefin 2015
- 25 Mawrth 2015
- 24 Mawrth 2015
- 21 Mawrth 2015
- 20 Mawrth 2015
- 7 Mawrth 2015